#

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,Deiseb: Ffyrdd o amgylch Trago Mills / Parc Manwerthu Cyfarthfa  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-827

Teitl y ddeiseb: Ffyrdd o amgylch Trago Mills / Parc Manwerthu Cyfarthfa

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater o gynnydd mewn traffig ar yr A470 o amgylch cyffiniau Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa a rhoi system draffig newydd ar waith i liniaru'r swm o traffig a welir yn ystod yr oriau brig, a all, wedyn, ddatrys y problemau parhaus y mae trigolion yn eu hwynebu. 

Agorodd Trago Mills ei drysau i'r cyhoedd oddeutu pythefnos yn ôl, ac ers i Trago Mills agor, bu problemau cyson o ran cynnydd yn y traffig yng nghyffiniau lleol Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa, nid yn unig y mae hyn yn digwydd ar benwythnosau ond mae hefyd yn digwydd ganol yr wythnos.

Pan ddaeth y mater hwn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn wreiddiol beth amser yn ôl cyn agor Trago Mills, dywedodd yn bersonol mewn llythyr y byddai'r A470 yn gallu ymdopi â phwysau traffig i mewn i'r ardal, ac allan ohoni ond, yn anffodus, nid yw hyn yn wir. Nid yw'r cynnydd mewn traffig ar brif gylchfan yr A470 yn gallu ymdopi â'r llwyth traffig sy'n mynd yn uniongyrchol i Barc Manwerthu Cyfarthfa a Trago Mills. Nid yn unig mae hyn yn anghyfleustra i'r preswylwyr hynny sydd eisoes yn byw yn agos at yr ardal, ond mae hefyd yn effeithio ar fusnesau lleol yn yr ardal ac yn effeithio ar yr economi oherwydd bod ymwelwyr yn osgoi'r ardal. 

A allwch chi ystyried y mater dan sylw eto gan fod angen gweithredu'n uniongyrchol i ddatrys y broblem hon.  

                                                                                                                            

Y cefndir

Rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Hi sy'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith, gan gynnwys yr A470, a gaiff ei disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn: "ein prif gefnffordd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru." Mae map o rwydwaith cefnffyrdd Cymru ar gael ar-lein.

Er mai Gweinidogion Cymru sydd â'r cyfrifoldeb statudol dros y rhwydwaith cefnffyrdd, dau asiant cefnffyrdd Cymru sydd â chyfrifoldeb dros eu gweithredu o ddydd i ddydd, cynnal a chadw a mân welliannau i'r rhwydwaith:

§    Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru; ac

§    Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Lleoliad Parc Manwerthu Cyfarthfa a Trago Mills

Lleolir Parc Manwerthu Cyfarthfa a'r siop Trago Mills ym Merthyr Tudful gyda'r mynedfeydd i'r ddau safle o gylchfan Ffordd Abertawe ar yr A470.

Agorwyd Parc Manwerthu Cyfarthfa i'r cyhoedd yn wreiddiol yn 2005 ac agorodd Trago Mills yn 2018.

Parc Manwerthu Cyfarthfa

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i Barc Manwerthu Cyfarthfa yn 2003 ar gyfer datblygu'r safle a agorodd yn 2005.

Yn 2012 cyflwynwyd cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ehangu'r parc manwerthu. Cafodd adroddiad ei ystyried gan y Cyngor llawn yn 2013 (PDF, 3.91KB) a rhoddwyd caniatâd cynllunio.

Roedd Asesiad Trafnidiaeth a gyflwynwyd ynghyd â'r cais i ymestyn y safle, yn ystyried effaith bosibl traffig cynyddol a nodwyd:

byddai'r datblygiad arfaethedig ar agor yn 2015 ac mae'r dadansoddiad o alluoedd cyffordd yn ystyried effeithiau ar y briffordd tan 2030, er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti i ddiwallu unrhyw dwf yn y llif traffig presennol. Cydnabyddir bod yr asesiad hwn yn ystyried datblygiad ymrwymedig arall, sef Trago Mills.

Roedd y cais cychwynnol i ymestyn y safle yn cynnwys gwaith priffyrdd i gylchfan A470 Ffordd Abertawe, a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth Cymru, fel awdurdod priffyrdd y rhwydwaith cefnffyrdd. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y cyfryngau, cyflwynwyd a chymeradwywyd cais diwygiedig. Fel y nodwyd yn adroddiad y Cyngor, yn dilyn cyflwyno cynlluniau ar gyfer y gwaith priffyrdd diwygiedig:

ystyriwyd unrhyw bryderon diogelwch ffyrdd neu effaith i'r cyffyrdd ar gylchfan yr A470(T) yn fanwl gan Lywodraeth Cymru. Cydnabyddir yn ymateb Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru i'r cais, ei bod yn fodlon â'r cynllun arfaethedig ac nad yw wedi codi unrhyw wrthwynebiadau, yn ddarostyngedig i amodau priodol.

Cafodd y gwelliannau i'r gylchfan eu gweithredu wedyn yn 2014 ac roeddent yn cynnwys lonydd ychwanegol i gyrraedd y gylchfan, ynghyd ag arwyddion a llinellau ychwanegol i wella llif y traffig.

Trago Mills

Cafodd y tir lle mae safle Trago Mills ei gaffael gan y datblygwr yn y 1990au. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ym 1995 gan yr awdurdod cynllunio lleol (awdurdod cynllunio Morgannwg Ganol ar y pryd) a dechreuodd y gwaith daear ar y safle yn 2005. Yn 2010, ystyriodd yr awdurdod cynllunio lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) a chymeradwyodd gais i ymestyn yr adeilad (PDF, 1.42MB) i gynnwys: 

ardal storio a manwerthu ychwanegol, canolfan arddio, adeilad llwytho a thŷ planhigion ynghyd â mân newidiadau i fanylion y to a gwelliannau o ran hygyrchedd.

Ymgynghorwyd ag Is-adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar y cynlluniau i ymestyn y safle arfaethedig a chodwyd pryderon yn wreiddiol ynghylch yr Asesiad Trafnidiaeth a oedd yn cyd-fynd â'r cynlluniau. Ar ôl hynny, cynhaliodd Llywodraeth Cymru brofion ynghylch faint o draffig sydd ar y gylchfan a ddefnyddir i gael mynediad i'r safle ei hun a daeth i'r casgliad:

ni fyddai llif diogel a rhydd traffig y gefnffordd yn cael ei amharu. O ganlyniad [nid oes] dim gwrthwynebiad i'r estyniad arfaethedig i Trago Mills.

Dechreuodd y gwaith ar strwythur yr adeilad yn 2016 ac ym mis Ebrill 2018 cafodd y siop ei hagor i'r cyhoedd.

Fel yr adroddwyd yn y cyfryngau, bu penwythnos agoriadol safle Trago Mills yn llawn tagfeydd wrth i bobl ymweld â'r siop newydd.

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Fel yr amlinellir, ymgynghorwyd ag Is-adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar effeithiau trafnidiaeth ehangu'r ddau safle fel rhan o'r ceisiadau cynllunio perthnasol.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 (y CCTC) Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni'r canlyniadau a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2020 (y tymor byr) a thu hwnt (y tymor canolig). Mae'r cynllun yn darparu amserlenni ar gyfer ariannu a chyflawni cynlluniau a ymgymerir gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n nodi ffynonellau cyllido posibl ac yn rhestru'r prosiectau a fydd yn ceisio cyllid o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae diweddariad y Cynllun yn 2017 (PDF, 1.05MB) yn amlinellu rhaglen 'wasgfa'. sy'n cynnwys ystyried opsiynau ac atebion ar gyfer Gwelliannau i'r coridor rhwng Ffynnon Taf a Merthyr ar yr A470.

 

 

Yn dilyn agor safle Trago Mills, cafodd y broblem tagfeydd traffig yn yr ardal ei chodi yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mai 2018. Dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James AC, fod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaethau mewn perthynas â thraffig ar y rhan hon o'r A470. Dywedwyd:

Mae'r darn o'r ffordd o gwmpas Trago Mills wrthi'n cael ei ymchwilio a'i arfarnu y unol â gofynion canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, a adnabyddir fel WelTAG. Mae seibiant yn yr astudiaethau ar hyn o bryd tra bod y patrymau traffig a'r galw ansefydlog yn dychwelyd i'r amodau cyfartalog ar ôl agor siop Trago Mills, y gwyddom ei fod wedi cynyddu galw yn sylweddol.

Disgwylir i'r cyfnod ymsefydlu bara tua chwe mis, ac ar yr adeg honno bydd yr astudiaeth yn ailddechrau trwy brofi tueddiadau a ragwelir gyda'r rhai sy'n hysbys ar ôl agor Trago Mills. Bydd y profion sensitifrwydd yn hysbysu'n well priodoldeb yr atebion tymor hwy a gynigir. Ar ôl i'r astudiaethau cyfnod 2 ar hyd y coridor gael eu cwblhau a'u harfarnu, bydd ymyraethau trafnidiaeth i fynd i'r afael â thagfeydd yn cael sylw. Disgwylir i hynny gael ei gwblhau erbyn dechrau 2019, a cheir mesurau tymor canolig i fwrw ymlaen â nhw yn y cyfamser.

Mae llythyr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau hefyd yn amlinellu'r pwyntiau a wnaeth Arweinydd y Tŷ, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaeth i ymchwilio i lefelau tagfeydd yn yr ardal. Mae'r llythyr yn datgan:

Byddwn yn gwybod pa gynlluniau trafnidiaeth fydd yn cael eu defnyddio i ddatrys y broblem tagfeydd ar yr A470 ar 61 cynnal yr astudiaethau cam 2 ar hyd y coridor. Disgwylir i'r gwaith Cam 2 ddod i ben yn gynnar yn 2019.

O ran caniatâd cynllunio ar gyfer safle Trago Mills, cydnabu Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip hefyd  yn y Cyfarfod Llawn:

gwnaed y penderfyniad ynghylch caniatâd cynllunio ym 1994 gan awdurdod cynllunio Morgannwg Ganol ac roedd yn cynnwys gwelliannau i'r briffordd a oedd yn briodol i raddfa'r datblygiad ar y pryd, ond, fel y mae'r Aelod wedi ei amlygu, mae'r sefyllfa honno wedi newid i raddau helaeth iawn. Felly, bydd yr astudiaethau yn llywio gwelliannau i'r ffordd ar ôl i'r traffig ymsefydlu unwaith eto.